OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi annomestig (“y cynllun”) sy’n gymwys i gategorïau penodol o hereditamentau.
Effaith y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yw sicrhau nad yw hereditamentau a ddefnyddir ar gyfer peiriannau arian awtomatig yn unig yn cael budd o ryddhad ardrethi i fusnesau bach o dan y cynllun.
Mae hyn yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys yn Cardtronics UK Limited v Pembrokeshire County Council [2018] EWHC 1167 (Admin) nad oedd peiriannau arian awtomatig yn “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” o fewn ystyr Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/229 (Cy. 11)), ac felly yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn 2017 drwy fewnosod diffiniad newydd sef “peiriant arian awtomatig” ac mae’n cynnwys y diffiniad hwnnw o fewn y diffiniad o “hereditament a eithrir”. Mae hyn yn golygu na fydd peiriannau arian awtomatig yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gydag effaith o 1 Ebrill 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
ardrethu a phrisio, cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 18 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 43(4B)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]), ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 146(6) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu
Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio)
2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2020.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017
2.—(1)(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i
Fusnesau Bach) (Cymru) 2017([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) yn y man priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomatig sy’n darparu mynediad hunanwasanaeth i ystod o wasanaethau bancio;;
(b) yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—
(g) a ddefnyddir ar gyfer peiriant arian awtomatig yn unig;.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Rhagfyr 2019
([1]) 1988 p. 41. Mewnosodwyd is-adran (4B) o adran 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 61(1) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 43(4B) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.